Cyn gwneud cais i gofrestru

Dylech dim ond cofrestru gyda ni os ydych yn gweithio neu'n bwriadu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cyn gwneud cais i gofrestru, rydym yn argymell eich bod yn darllen y cyngor ar sut i wneud cais ar ein gwefan https://gofalcymdeithasol.cymru/cofrestru/sut-i-wneud-cais

Sut i wneud cais i gofrestru 

Mae'r fideo isod yn dangos trosolwg o sut i wneud cais i gofrestru gyda ni:



Rhaid i'r holl wybodaeth a roddwch ar eich ffurflen fod yn gywir hyd y gorau o'ch gwybodaeth a'ch cred. Gall rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i ni olygu ein bod yn gwrthod eich cofrestru neu'n cael eich tynnu oddi ar y Gofrestr.

Help drwy'r safle 

Os oes opsiwn cymorth yng nghornel dde uchaf eich sgrin, neu os gwelwch y gair help mewn mannau allweddol, gallwch glicio hwn am help ac arweiniad ar gyfer y dudalen rydych chi arni, gall hyn gynnwys fideos a dolenni i ganllawiau perthnasol. Mae rhai enghreifftiau i'w gweld yn y rhestr isod.

Gwybodaeth ychwanegol 

Cofrestru fel Rheolwr

Os ydych yn Rheolwr, mae angen i chi fod wedi cwblhau cymhwyster gofynnol a meddu ar y dystysgrif er mwyn gwneud cais i gofrestru. Ceir rhagor o wybodaeth am y llwybrau y gallwch eu defnyddio i Gofrestru ar y fframwaith cymwysterau ar ein gwefan https://gofalcymdeithasol.cymru/fframwaith-cymwysterau Os credwch fod gennych gymhwyster cyfatebol, cysylltwch â'n tîm gan e-bostio ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru agofynnwch am y broses asesu cyfatebiaeth cymwysterau.

Gweithwyr cymdeithasol wedi cymhwyso y tu allan i'r DU

Os ydych yn weithiwr cymdeithasol a gymhwysodd y tu allan i'r DU, rhaid  i chi gysylltu â ni cyn i chi wneud cais i gofrestru, gan y gallai fod angen i ni asesu eich cymhwyster. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses hon ar ein gwefan drwy fynd  i'r afael â https://gofalcymdeithasol.cymru/cofrestru/sut-i-wneud-cais neu drwy anfon e-bost atom yn internationallyqualified@socialcare.cymru