Ein pwrpas yw meithrin hyder yn y gweithlu, ac arwain a chynorthwyo gwelliant mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydym wedi cofrestru fel Rheolwr Data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae hyn yn golygu ein bod yn gyfrifol am:
Mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu eich data a chydymffurfio â deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifri.
Mae’r math o wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a sut rydym yn ei defnyddio wedi ei amlinellu isod. Caiff ychydig o’r wybodaeth hon ei darparu gennych chi’n uniongyrchol. Ar adegau eraill, mae’n bosibl y bydd cyflogwyr, hyfforddwyr ac asiantaethau tebyg yn ei darparu. Byddwn ond yn casglu a chadw gwybodaeth sydd ei hangen arnom i ymgymryd â’n swyddogaethau a/neu ddarparu gwasanaethau i chi.
Mae nifer o seiliau cyfreithiol y gallwn ddibynnu arnynt i gasglu a phrosesu eich data personol. Disgrifir y rhain yn fwy manwl isod.
Os ydych yn berson cofrestredig, y prif seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt wrth brosesu eich gwybodaeth yw’r seiliau cyfreithiol rhwymedigaeth gyfreithiol a budd cyhoeddus sy’n golygu ein bod wedi ymrwymo i gasglu gwybodaeth benodol amdanoch a’i phrosesu mewn ffyrdd penodol. Gallwn hefyd ddibynnu ar fudd y cyhoedd fel y sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich manylion cyswllt er mwyn anfon cylchlythyrau neu roi gwybod i chi am ddigwyddiadau gan fod gennym ddyletswydd gyfreithiol i gefnogi dysgu a datblygiad pobl cofrestredig.
Mae’r seiliau cyfreithiol y gellir dibynnu arnynt i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn cynnwys:
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru yn unig ac nid yw’n cynnwys gwefannau eraill yr ydym yn cysylltu â nhw. Dylech ddarllen yr hysbysiadau preifatrwydd sydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.
Os byddwch yn dewis peidio â rhoi data personol perthnasol i ni, dylech fod yn ymwybodol na fyddwn o bosibl yn gallu cynnig gwasanaethau penodol i chi. Er enghraifft, ni allwn eich cofrestru os na allwn wirio eich hunaniaeth a dilysu eich cymwysterau.
Ein Swyddog Diogelu Data yw Kate Salter, a gallwch gysylltu â hi ar kate.salter@gofalcymdeithasol.cymru
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r data personol yr ydym yn cadw amdanoch drwy wneud Cais Cyrchu Gwrthrych Data. Os oes angen cymorth arnoch i wneud Cais Cyrchu Gwrthrych Data, efallai y bydd y ddogfen Gwneud Cais Cyrchu Gwrthrych Data o gymorth, neu gallwch gysylltu â’r ein Swyddog Monitro a Chydymffurfio, ar jeni.meyrick@gofalcymdeithasol.cymru. Byddwch yn derbyn ymateb gennym o fewn 30 diwrnod.
Ni chodir tâl am wneud cais oni bai eich bod eisiau copi ychwanegol o’r wybodaeth neu os yw eich ceisiadau’n ormodol.
Dylech fod yn ymwybodol nad oes rhaid i ni mewn rhai achosion ddarparu copi o’r data yn sgil eithriad. Dyma’r achosion ble gallai hyn fod yn berthnasol:
Mae gennych rai hawliau dan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoli sut rydym yn defnyddio eich data, drwy ofyn i ni ei ddiwygio, ei ddileu neu gyfyngu ar sut yr ydym yn ei ddefnyddio. Er mwyn ymarfer yr hawliau hyn, dylech gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data, Kate Salter, ar kate.salter@gofalcymdeithasol.cymru
Dylech fod yn ymwybodol bod eithriadau i’r hawliau hyn. Er enghraifft, nid oes rhaid i ni ddileu gwybodaeth os ydym yn ei defnyddio ar gyfer ein swyddogaethau statudol ac mae gennym hawl gyfreithiol i barhau i ddefnyddio’r data.
Os ydych yn credu bod y wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, gallwch ofyn am adolygu’r wybodaeth a’i chywiro/ychwanegu ati.
Os byddwch yn gwrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth neu os ydych yn dymuno i ni ddileu eich gwybodaeth, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data fel y gallwn ystyried eich cais a’r sail ar ei gyfer.
Pe byddech am newid eich dewisiadau ynglŷn â sut neu beth yr ydym yn cyfathrebu â chi, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg drwy gysylltu â cyfryngau@gofalcymdeithasol.cymru
Gallwch hefyd newid eich dewisiadau o fewn eich ardal ar GCCarlein os oes gennych gyfrif gyda ni.
Sylwch, os nad ydych yn dymuno i ni anfon gohebiaeth atoch, yn ddelfrydol, byddem eisiau cadw cofnod o hyn yn hytrach na dileu eich gwybodaeth yn llwyr er mwyn i chi beidio â derbyn rhagor o ohebiaeth.
Os ydych wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich llun ac mae wedi ei gynnwys mewn cyhoeddiad ac rydych eisiau dileu eich caniatâd, dylech fod yn ymwybodol na fyddem yn gallu dinistrio pob copi o’r ddogfen honno. Byddem, fodd bynnag, yn rhoi'r gorau i ddefnyddio’r llun ar gyfer unrhyw atgynhyrchu pellach o’r adeg yr ydych yn dileu eich caniatâd.
Rydym yn cadw gwybodaeth am weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda ni. Rydym hefyd yn cadw gwybodaeth am weithwyr gofal cymdeithasol sy’n gwneud cais i gofrestru, a gweithwyr gofal cymdeithasol nad ydynt wedi cofrestru mwyach.
At ddibenion cofrestru, rydym yn cadw’r wybodaeth ganlynol am berson cofrestredig:
Rydym yn derbyn y wybodaeth hon gan y person cofrestredig, ei gyflogwyr, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant a ffynonellau eraill sydd eu hangen i ddilysu bod hunaniaeth, cymwysterau a meini prawf cofrestru wedi eu bodloni.
Mae’n ofynnol ein bod o dan Adran 80 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn cadw cofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol gan gynnwys, Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod y rhai hynny ar y rhestr yn gymwys. Rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth hon fel rhan o Rwymedigaethau Gorchwyl Gyhoeddus a Chyfreithiol. Caiff y wybodaeth ei defnyddio at y dibenion canlynol:
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth lle y bo angen er mwyn cynorthwyo sefydliadau eraill i ymgymryd â swyddogaethau neu ble mae gan y sefydliad ddiddordeb dilys yn y wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys:
Os byddwn yn canfod bod eich addasrwydd i ymarfer yn ddiffygiol, byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon mewn unrhyw ffordd yr ydym yn credu sy’n briodol - ar hyn o bryd, fe’i cyhoeddir ar ein gwefan. Gallwch ddarllen ein Polisi Gwybodaeth Gyhoeddus Addasrwydd i Ymarfer sy’n egluro’n fanylach sut y caiff hwn ei wneud a phryd na fyddwn efallai yn cyhoeddi gwybodaeth.
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon oherwydd ein bod wedi cael gwybod eich bod yn gweithio mewn proffesiwn yr ydym yn ei gofrestru neu’n bwriadu ei gofrestru ac y byddai’r wybodaeth hon yn ffurfio rhan o’r ystyriaethau wrth sefydlu a ydych yn addas i ymarfer pe byddech yn gwneud cais gyda ni i gofrestru yn y dyfodol. Rydym yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod gan y rhai hynny sydd ar y gofrestr gymwysterau addas.
Rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth hon drwy ddibynnu ar y sail gyfreithiol Budd Cyhoeddus neu’r sail gyfreithiol Diddordeb Dilys a’i chadw mor hir â bo angen er mwyn diwallu ein dibenion.
Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon yn ôl yr angen er mwyn cynorthwyo sefydliadau eraill i ymgymryd â’u swyddogaethau neu ble mae gan sefydliad ddiddordeb dilys yn y wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys:
Rydym yn adolygu ein dull o gadw gwybodaeth ar gyfer y categori hwn o bobl yn rheolaidd. Byddwn yn cysylltu â chi eto os/a phan y byddwn yn derbyn diweddariadau neu unrhyw eglurhad sy’n awgrymu na ddylem gadw’r wybodaeth.
Y wybodaeth yr ydym yn ei chadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
Mae’r wybodaeth a ddarperir gennych chi yn cael ei chadw gennym ni gan ddibynnu ar y sail gyfreithiol Budd Cyhoeddus.
Os byddwch yn newid swydd, dylai’r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo roi gwybod i ni. Gallwch hefyd wneud hyn hefyd a gofyn i ni ddileu unrhyw gyfrifon neu gofnodion.
Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu yn y modd hwn at y diben hwn, ond caiff ymgeiswyr a chofrestrwyr eu cyfeirio at y cymeradwywyr sydd ar gael iddyn nhw drwy Gofal Cymdeithasol Cymru Ar-lein.
Y wybodaeth yr ydym yn ei chadw:
Rydym yn derbyn ac yn prosesu’r wybodaeth hon fel rhan o rwymedigaeth gytundebol bosibl, neu pan fydd er lles ein Diddordeb Dilys i wneud hynny.
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i:
Ceir y wybodaeth hon yn uniongyrchol oddi wrthoch chi, gan gynnwys y wybodaeth yr ydych yn ei darparu mewn CV neu lythyr cais neu ar ein ffurflen gais ac mewn cyfweliad.
Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth o drydydd parti fel asiant recriwtio neu drwy fwrdd swyddi ar-lein. Rydym hefyd yn creu ein gwybodaeth ein hunain yn ystod y broses recriwtio ac yn cael gwybodaeth amdanoch chi o ffynonellau eraill er mwyn ymgymryd â gwiriadau amrywiol.
Efallai y byddwn yn rhannu rhywfaint o’r wybodaeth hon gyda’r rhai hynny sy’n rhan o’r recriwtio a chyda chanolwyr a sefydliadau addysg at ddibenion dilys pe byddech yn llwyddiannus.
Nid yw gwybodaeth am gydraddoldeb yn wybodaeth orfodol - os na fyddwch yn ei darparu, ni fydd yn effeithio ar eich cais. Caiff unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu ei defnyddio i gynhyrchu a monitro ystadegau cyfle cyfartal yn unig. Mae gan staff presennol a blaenorol Hysbysiad Preifatrwydd ar wahân, sydd ar gael iddyn nhw fel rhan o bolisïau a gweithdrefnau’r sefydliad.
Rydym yn cadw gwybodaeth am aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio gwasanaethau neu y mae aelodau o’u teulu yn defnyddio gwasanaethau ble mae pobl sy’n gofrestredig â Gofal Cymdeithasol Cymru yn cael eu cyflogi.
Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw, a allai gael ei derbyn fel rhan o’n hymchwiliadau addasrwydd i ymarfer, yn cynnwys:
Rydym yn derbyn y wybodaeth hon o ffynonellau amrywiol gan gynnwys cyflogwyr, asiantaethau rheoleiddio, achwynwyr a phersonau cofrestredig. Rydym yn cadw’r wybodaeth hon o dan y sail gyfreithiol Budd Cyhoeddus ac rydym yn ei defnyddio i:
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n cynhyrchu ystod o ddeunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau er mwyn hyrwyddo arfer da, datblygiadau ac adnoddau all ychwanegu at wybodaeth a helpu i wella arfer o fewn y sector.
Beth rydym yn ei gadw:
Er mwyn ein galluogi ni i:
Mae angen eich caniatâd* arnom i gadw’r wybodaeth hon. Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda thrydydd parti a allai ei phrosesu ar ein rhan er mwyn ein helpu i gysylltu â chi. Rydym yn sicrhau bod unrhyw drydydd parti yr ydym yn ei ddefnyddio yn ein helpu i gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.
Pe byddech yn dymuno newid eich dewisiadau ynglŷn â sut yr ydym yn cyfathrebu â chi, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg drwy gysylltu â cyfryngau@gofalcymdeithasol.cymru.
Gallwch hefyd newid eich dewisiadau o fewn eich cyfrif GCCarlein os oes gennych gyfrif gyda ni.
Sylwch, os nad ydych yn dymuno i ni anfon gohebiaeth atoch, yn ddelfrydol, byddem eisiau cadw cofnod o hyn yn hytrach na dileu eich gwybodaeth yn llwyr er mwyn i chi beidio derbyn rhagor o ohebiaeth.
*Nid yw personau cofrestredig yn gallu atal gohebiaeth gyda ni gan fod gorfodaeth arnom i anfon gohebiaeth atoch mewn perthynas â chofrestru, cymwysterau perthnasol a chyfleoedd Hyfforddiant a Dysgu Ôl-gofrestru ac rydym yn dibynnu ar y sail gyfreithiol Budd Cyhoeddus i wneud hyn.
Trwy ein hymgyrchoedd ar y cyfryngau, digwyddiadau a phrosiectau eraill, rydym yn aml yn gofyn caniatâd i dynnu lluniau/ creu fideos neu gasglu straeon er budd hyrwyddo ein gwaith, arfer da a datblygiadau o fewn y sector. Os byddwch yn rhoi caniatâd ar gyfer hyn, gallwch bennu sut y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ac ym mha fformat, h.y. cyfryngau cymdeithasol, ar-lein ar ein gwefan, straeon yn y wasg, yn ein llenyddiaeth argraffedig a deunydd hyrwyddo.
Rydym yn cadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
Caiff eich gwybodaeth bersonol a’ch caniatâd cysylltiedig eu cadw gennym ni a gellir eu defnyddio yn y fformatau yr ydych wedi cytuno iddynt am hyd at pum mlynedd. Pe byddech yn dymuno diddymu eich caniatâd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â cyfryngau@gofalcymdeithasol.cymru
Pan gaiff eich gwybodaeth ei rhannu, gyda’ch caniatâd, â thrydydd parti, fel y wasg neu ar y cyfryngau cymdeithasol, dylech fod yn ymwybodol y bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd a chyfnod cadw’r trydydd parti perthnasol yn dod i rym ac ni fydd gennym unrhyw reolaeth dros hyn.
Rydym yn cadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth hon, ond ar adegau rydym yn defnyddio meddalwedd trydydd parti er mwyn anfon manylion a rheoli’r trefniadau. Mae pob meddalwedd trydydd parti yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.
Er mwyn galluogi mynychwyr digwyddiadau i rwydweithio’n effeithiol yn ein digwyddiadau, efallai y byddwn yn rhannu rhestrau mynychwyr. Rhowch wybod i ni os nad ydych yn dymuno i’ch manylion gael eu rhannu.
Rydym yn dal:
Rydym yn cadw'r wybodaeth hon i:
Lle nad ni yw unig swyddfa yn yr adeilad (Swyddfa Caerdydd) mae Teledu Cylch Cyfyng ychwanegol sy'n cael ei reoli gan berchnogion yr adeilad.
Rydym yn cadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon o dan seiliau cyfreithiol Budd Cyhoeddus a Chontract er mwyn:
Rydym yn cael y wybodaeth yn uniongyrchol gan Aelodau’r Bwrdd neu ddarpar Aelodau’r Bwrdd, ond gallem hefyd ei chael o drydydd parti fel asiant recriwtio. Rydym hefyd yn creu ein gwybodaeth ein hunain yn ystod y broses recriwtio ac yn cael gwybodaeth gan ffynonellau eraill er mwyn gwneud gwiriadau amrywiol.
Efallai y byddwn yn rhannu rhywfaint o’r wybodaeth hon gyda’r rhai hynny sy’n rhan o’r broses recriwtio a chyda chanolwyr at ddibenion dilysu.
Defnyddir unrhyw wybodaeth am gydraddoldeb i gynhyrchu ystadegau cyfle cyfartal yn unig.
Rydym yn rhannu enwau a bywgraffiadau aelodau’r bwrdd gyda’r cyhoedd ar ein gwefan.
Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw, a allai gael ei derbyn fel rhan o’n hymchwiliadau addasrwydd i ymarfer, yn cynnwys:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon gan ddibynnu ar y sail gyfreithiol Budd Cyhoeddus er mwyn:
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
Rydym yn cadw gwybodaeth am aelodau panel presennol, blaenorol a darpar aelodau addasrwydd i ymarfer.
Y wybodaeth yr ydym yn ei chadw:
Rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth hon ar y sail gyfreithiol Contract a Budd Cyhoeddus. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i:
Rydym yn cael gwybodaeth yn uniongyrchol gan aelodau o’r Panel neu ddarpar aelodau o’r Panel, ond efallai y byddem hefyd yn ei chael gan drydydd parti fel asiant recriwtio. Rydym hefyd yn creu ein gwybodaeth ei hunain yn ystod y broses recriwtio ac yn cael gwybodaeth gan ffynonellau eraill er mwyn ymgymryd â gwiriadau amrywiol.
Efallai y byddwn yn rhannu rhywfaint o’r wybodaeth hon gyda’r rhai hynny sy’n rhan o’r broses recriwtio a chyda chanolwyr at ddibenion dilysu.
Caiff unrhyw wybodaeth am gydraddoldeb ei defnyddio i gynhyrchu a monitro ystadegau cyfle cyfartal yn unig.
Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
Rydym yn cadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
Rydym yn cadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
Rydym yn cadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
Dim ond tra bod yr ymholiad yn digwydd y cedwir yr enw a’r manylion cyswllt. Cedwir natur yr ymholiad er mwyn gallu adrodd.
Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
Rydym yn cynnal ac yn comisiynu ymchwil ar ystod o bynciau er mwyn cynnal ein swyddogaethau rheoleiddio. Mae’r rhain yn ymwneud â chofrestru, addasrwydd i ymarfer, recriwtio a chadw. Rydym yn cynhyrchu ystadegau yn seiliedig ar y wybodaeth sydd gennym, er enghraifft y Set Ddata Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i Gymru
Rydym yn cadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
Rydym yn cadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
Dim ond tra bod yr ymholiad yn digwydd y cedwir yr enw a’r manylion cyswllt. Cedwir natur yr ymholiad er mwyn gallu adrodd.
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
Y wybodaeth yr ydym yn ei chadw:
Rydym yn cadw’r wybodaeth er mwyn:
Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru un brif wefan yn ogystal â nifer o safleoedd at ddibenion penodol. Pan fydd rhywun yn ymweld â’n safleoedd, rydym yn casglu gwybodaeth cofnodi cyffredinol y rhyngrwyd fel y dudalen y gofynnodd y person amdani, cyfeiriad protocol y rhyngrwyd, math o borwr, iaith y pori, dyddiad ac amser y cais. Rydym yn gwneud hyn er mwyn cael gwybodaeth am bethau fel nifer yr ymwelwyr â rhannau amrywiol y safle. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn ffordd nad yw’n adnabod unrhyw un. Nid ydym yn ceisio dod o hyd i hunaniaeth y rhai hynny sy’n ymweld â’n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gasglwyd gydag unrhyw wybodaeth sy’n adnabod rhywun yn bersonol o unrhyw ffynhonnell. Os ydym eisiau casglu gwybodaeth syn adnabod rhywun yn bersonol trwy ein gwefan, byddwn yn dweud hyn. Byddwn yn ei gwneud hi’n glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn egluro’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud â hi.
Ffeiliau testun bychain a roddir ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych yn ymweld â nhw yw cwcis. Maent yn cael eu defnyddio’n eang er mwyn sicrhau bod gwefannau’n gweithio’n fwy effeithiol, yn ogystal â darparu gwybodaeth ddadansoddol i berchnogion y safle, Mae’r cwcis a ddefnyddir ar hyn o bryd gennym ni wedi eu rhestru ar waelod yr hysbysiad hwn.
Rydym yn gwreiddio fideos o’n sianel YouTube swyddogol drwy ddefnyddio dull ehangu preifatrwydd YouTube. Efallai y bydd y dull hwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur wedi i chi glicio ar y chwaraewr fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth cwcis lle gellir adnabod rhywun yn bersonol ar gyfer fideos yn cael eu chwarae nôl wrth ddefnyddio’r dull ehangu preifatrwydd.
Teclyn dros dro yw hwn sy’n galluogi defnyddwyr y wefan i gysylltu â ni drwy gais a gadael adborth mewn perthynas â phrofiad y defnyddiwr ac unrhyw broblemau yn ymwneud â swyddogaeth y gallen nhw fod yn eu profi. Mae’r teclyn hwn yn ddewisol ac ni fydd yn dilyn gweithredu gan y defnyddiwr oni bai bod y defnyddiwr yn gorchymyn hyn.
Mae’r holl wybodaeth a gesglir gan Doorbell yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol
Mae’r peiriant chwilio ar ein gwefan yn cael ei ddarparu gan Craft CMS. Wrth chwilio ein gwefan, caiff cofnod o’ch term chwilio ei gofnodi yn Google Analytics, a defnyddir y wybodaeth hon er mwyn helpu wella cynnwys ar ein gwefan.
Os oes gennych chi gwestiwn Cysylltwch â ni