Beth mae ardystio yn ei olygu?

Mae ardystio yn golygu eich bod yn cefnogi cais unigolyn i gofrestru neu adnewyddu ei gofrestriad. Mae’n golygu bod y wybodaeth y mae’r unigolyn wedi’i rhoi i ni yn gywir, hyd y gwyddoch, ac nad ydych ymwybodol o unrhyw broblemau o ran ei gymeriad, ei gymhwysedd neu addasrwydd i ymarfer, sy’n golygu y gellir ystyried bod yr unigolyn yn addas i gofrestru â ni.

Pwy sydd angen ardystiad?

Mae'n rhaid i bob cais i'r gofrestr cael ei ardystio ar wahân i geisiadau fyfyrwyr gofal cymdeithasol.

Pwy ddylai ardystio'ch cais?

Dylai ardystiwr:
 

  • sicrhau mai ef/hi yw’r llofnodwr a gymeradwywyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer eich sefydliad

  • fod yn rhywun mewn rôl uwch

  • pan fo modd, dylai fod wedi cael gwiriad gan yr heddlu, fel gwiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol neu’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

  • fod yn weithiwr proffesiynol nad yw’n perthyn i chi nac mewn perthynas bersonol â chi, yr ymgeisydd.
     

Sut caiff ardystio ei gwblhau?

Bydd eich cais GCCarlein yn gofyn i chi ddewis enw’ch ardystiwr o restr o’n llofnodwyr cymeradwy ar gyfer eich sefydliad neu brifysgol. Os dewiswch o’r rhestr hon a chyflwyno’ch ffurflen, caiff ei rhannu fel mater o drefn â’r ardystiwr/ardystwyr a ddewiswyd gennych. Byddant yn derbyn neges e-bost sy’n eu galluogi i weld a chymeradwyo’ch cais.

Os nad yw eich ardystiwr yn un o’n llofnodwyr cymeradwy, bydd angen i chi argraffu’ch ffurflen a’r cofnod o’ch hyfforddiant, os bydd angen, a gofyn i’ch ardystiwr lenwi’r adrannau ardystio â llaw.

Wedyn, bydd angen i chi sganio’r ffurflen ardystiedig a'i lwytho i’ch cyfrif GCCarlein. I wneud hyn, mewngofnodwch yn eich cyfrif GCCarlein a dewis ‘Fy Manylion Cyswllt”, wedyn ‘Llwytho dogfen’ o’r ddewislen. Efallai y byddwn yn cysylltu â’r ardystiwr i gadarnhau mai ef/hi a lofnododd y ffurflen a chadarnhau pwy ydyw.

 

Beth mae gwirio yn ei olygu?

Mae gwirio yn golygu edrych ar y ddogfen wreiddiol, gwneud llungopi ohoni a’i llofnodi a’i dyddio i gadarnhau ei bod yn gopi cywir o’r ddogfen wreiddiol.