Defnyddiwch y diagram llif I weld pa ddogfennau sydd eu hangen fel rhan o’r broses ymgeisio.

Os ydych chi'n gwneud cais fel un o'r canlynol: Gweithiwr Cymdeithasol wedi cymhwyso cyn 2007, gweithiwr cymdeithasol wedi cymhwyso gyda gradd/meistr o fewn y DU ond tu allan i Gymru, rheolwr neu weithiwr gofal plant preswyl, rheolwr neu weithiwr gofal cartref neu reolwr cartref gofal i oedolion ac os oes gennych wiriad DBS o fewn y 3 blynedd diwethaf neu os ydych ar y gwasanaeth diweddaru DBS, yna bydd angen copi o'ch tystysgrif cymhwyster sydd wedi ei wirio. Os nad oes gennych wiriad DBS o fewn y 3 blynedd diwethaf, bydd angen arnom eich tystysgrif cymhwyster, eich tystysgrif geni a'ch adnabyddiaeth ffotograffig. Os ydych chi'n gwneud cais fel myfyriwr gwaith cymdeithasol neu weithiwr cymdeithasol wedi cymhwyso yng Nghymru gyda gradd/meistr, nid oes angen unrhyw ddogfennau wedi'u wirio gennych chi. Mae'ch prifysgol yn cadarnhau eich adnabyddiaeth yn ystod eu proses gofrestru.








 
Os ydych chi'n gwneud cais fel gweithiwr cymdeithasol wedi cymhwyso y tu allan i’r DU, bydd angen copïau wedi'u gwirio o'ch tystysgrif cymhwyster, eich tystysgrif geni a'ch adnabyddiaeth ffotograffig. Gweler ein gwefan am ragor o wybodaeth am y broses ymgeisio.Y mathau derbyniol o adnabyddiaeth ffotograffig yw: tudalen adnabod ffotograffig eich pasbort, trwydded yrru ffotograffig, cerdyn adnabod gwaith ffotograffig, cerdyn adnabod ffotograffig o un o Luoedd Arfog Prydain, cerdyn adnabod ffotograffig cenedlaethol (gwledydd yr UE yn unig)