Os byddwch yn newid eich enw, bydd angen i chi anfon llungopi atom o un o’r canlynol, wedi’i lofnodi a’i ddyddio gan eich rheolwr llinell neu gyfatebol:

  • eich tystysgrif priodas
  • eich tystysgrif partneriaeth sifil
  • gweithred newid enw
  • archddyfarniad absoliwt.

Gallwch ei lanlwytho yn adran Fy Nogfennau y wefan neu ei anfon drwy’r e-bost at ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru