Mae newid i'r Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr, a ddaeth i rym ar 29 Mai 2013, yn golygu bod rhai mân a hen geryddon, rhybuddion a chollfarnau yn cael eu 'gwarchod' ac nid oes angen eu datgelu mwyach. Mae'r Gorchymyn sy'n diwygio'r Ddeddf yn amlinellu'r troseddau sydd wedi eu 'gwarchod' ac nad oes angen eu datgan mwyach. Mae pob rhybudd a chollfarn am droseddau treisgar a rhywiol difrifol, a throseddau eraill sy'n berthnasol ar gyfer swyddi sy'n ymwneud â diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed, a phob euogfarnau sy'n arwain at ddedfryd o garchar, yn parhau i fod yn destun datgeliad fel y bydd pob euogfarn lle mae unigolyn wedi derbyn mwy nag un gollfarn.

 

(Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a LLoegr) 2013; a Deddf 1997 (Tystysgrif Cofnodion Troseddol yr Heddlu: Materion Perthnasol) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2013)

 

Ceir manylion pellach ar y dudalen hwn o'r wefan isod:

http://hub.unlock.org.uk/wp-content/uploads/What-will-be-filtered-by-the-DBS.pdf

 

Nid oes angen datgelu mân a hen geryddon, rhybuddion a chollfarnau sy'n cael eu 'gwarchod' (gweler gwefan y DBS). Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw gollfarn blaenorol er gwaethaf y ddedfryd ac unrhyw benderfyniad gan yr heddlu neu'r llys yn eich erbyn mewn unrhyw wlad, beth bynnag fo'r derminoleg a ddefnyddiwyd i'w disgrifio. Hefyd unrhyw achosion troseddol yn eich erbyn sydd dan ystyriaeth lle rydych wedi cael eich cyhuddo'n ffurfiol; unrhyw rybydd, cerydd, rhwymedigaeth, rhybydd terfynol neu ddirwyon trafnidiol ac os ydych wedi eich gwahardd rhag gyrru, rydych wedi'u derbyn.