Cwblhau eith manylion personol

Y dudalen manylion personol yw rhan gyntaf eich cais lle gofynnwyd am wybodaeth amdanoch. Dylech chi defnyddio'r enw yr ydych yn defnyddio ar gyfer gwaith gan mai dyma'r enw fydd yn ymddangos ar y Gofrestr.

Rhaid ichi ateb yr holl gwestiynau gofynnol sydd â seren fach goch wrth eu ymyl er mwyn i'r rhan honno o'r ffurflen gael ei chwblhau.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r holl gwestiynau gofynnol ar y dudalen a chlicio arbed a nesaf ar ddiwedd y dudalen, dylech weld tic coch wrth ymyl y geiriau manylion personol ar y ddewislen ochr sy'n dangos i chi eich bod wedi cwblhau'r adran honno o'ch ffurflen yn llwyddiannus.

Os oes angen i chi fynd yn ôl i adran i newid rhywbeth gallwch wneud hyn unrhyw bryd cyn i chi gyflwyno'ch cais drwy glicio ar deitl yr adran ar y ddewislen ochr.

Os gwelwch driongl coch gyda nod ebychnod ar unrhyw un o'r opsiynau ar y ddewislen ochr, mae'n golygu nad ydych wedi cwblhau rhan o'ch cais yn llawn a mae rhywfaint o'r wybodaeth sydd angen ar goll o hyd.

Rhaid i'r holl wybodaeth a roddwch ar eich ffurflen fod yn gywir hyd y gorau o'ch gwybodaeth a'ch cred. Gall rhoi gwybodaeth anghyflawn, anwir neu gamarweiniol i ni olygu bod Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwrthod eich cofrestru neu eich tynnu oddi ar y Gofrestr.

Cwblhau gweddill eich cais 

Mae'r fideo isod yn dangos i chi sut i gwblhau eich cais