Diolch am gyrchu adran GCCarlein gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru (“y Wefan”). Adran GCCarlein o’r wefan (“GCCarlein”) yw’r gwasanaethau ar-lein a ddarperir gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Mae cyfeiriadau at “y Wefan” yn golygu gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru ac adran GCCarlein hefyd.

Darllenwch y telerau ac amodau hyn ar gyfer GCCarlein (“Telerau”), ynghyd â thelerau ac Amodau’r Wefan a’n Polisi Preifatrwydd yn ofalus cyn defnyddio GCCarlein. Caiff GCCarlein ei weithredu gan Ofal Cymdeithasol Cymru (“ein” neu “ni”), sy’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Wrth fynd i mewn i’r safle, rydych chi, y defnyddiwr (“chi”) yn derbyn ein Telerau.

Caiff GCCarlein a’i safleoedd cysylltiedig eu cynnal i chi eu defnyddio ac edrych arnynt yn bersonol. Trwy gyrchu GCCarlein a’i ddefnyddio, rydych yn derbyn y Telerau hyn, sy’n dod i rym o ddyddiad y defnydd cyntaf ar GCCarlein.

Trwy fwrw ymlaen i gyrchu GCCarlein, rydych yn cytuno bod y Telerau yn eich rhwymo.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r Telerau hyn o bryd i’w gilydd. Yn unol â hynny, dylech fwrw golwg ar y Telerau bob tro y byddwch chi’n cyrchu GCCarlein. Os nad ydych chi’n dymuno derbyn y Telerau ar unrhyw adeg, ni ddylech ddefnyddio GCCarlein. Diweddarwyd y Telerau hyn ddiwethaf ym mis Hydref 2012.

Bwriedir gallu cyrchu’r porthol hwn at ddefnydd awdurdodedig yn unig. Ystyrir bod unrhyw ymdrech i gyrchu’r porthol hwn heb awdurdod hwn yn torri Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Caiff ymdrechion i gyrchu heb awdurdod eu cofnodi.

Diffiniadau

GCCarlein – dyma’r gwasanaethau ar-lein a ddarperir gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Defnyddiwr – unrhyw unigolyn sy’n defnyddio GCCarlein.

Ymgeisydd – defnyddiwr sy’n cyflwyno gwybodaeth bersonol ar y ffurflen gais.

Unigolyn Cofrestredig – defnyddiwr sydd wedi cofrestru ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ac sy’n cyflwyno gwybodaeth bersonol ar y ffurflen adnewyddu neu ddiwygiadau i’w wybodaeth bersonol.

Llofnodwr Cymeradwy – unigolyn mewn swydd uwch, a gyflogir mewn sefydliad gofal cymdeithasol, yng Nghymru, neu unigolyn cyfatebol, sydd wedi’i gymeradwyo gan Ofal Cymdeithasol Cymru i wirio ac ardystio ceisiadau i gofrestru ac adnewyddu, a chyfathrebu â Gofal Cymdeithasol Cymru am yr ymgeiswyr, yr unigolion cofrestredig a’r llofnodwyr ar gyfer eu sefydliad.

Aelod Pwyllgor – defnyddiwr sydd wedi’i benodi gan Ofal Cymdeithasol Cymru i fod yn aelod o bwyllgorau cofrestru ac ymddygiad ac sy’n cyflwyno gwybodaeth bersonol ac sydd wedi cael yr hawl i gyrchu dogfennau penodol yn ymwneud â gwrandawiadau.

Gwybodaeth a data ar GCCarlein

Mae’r holl wybodaeth a data a gyhoeddir ar GCCarlein dan hawlfraint Gofal Cymdeithasol Cymru. Gellir eu lawrlwytho a’u hargraffu gan:

  • Y defnyddiwr i ategu cais neu gais i adnewyddu er mwyn sicrhau bod y Gofrestr yn gyfredol ac nid at unrhyw ddiben arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw
  • Yr ymgeisydd i gyrchu ffurflenni cais
  • Yr unigolyn cofrestredig i gyrchu ffurflenni cofnodion cyrhaeddiad datblygiad proffesiynol parhaus a ffurflenni ymadael i fyfyrwyr
  • Y Llofnodwr Cymeradwy i gyrchu rhestri o’u hymgeiswyr a’u hunigolion cofrestredig a ffurflenni cais i lofnodwyr
  • Yr Aelod Pwyllgor at ddiben cymryd rhan mewn gwrandawiadau.

Hysbysiad Diogelu Data

Bydd y data personol a roddir gan Ymgeisydd, Unigolyn Cofrestredig, Llofnodwr Cymeradwy ac Aelod Pwyllgor drwy GCCarlein yn cael ei ddefnyddio gan Ofal Cymdeithasol Cymru at y dibenion sydd wedi’u datgan yn y Datganiad Diogelu Data a ddarperir ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru ac ar gais, a chaiff ei brosesu yn unol â’r egwyddorion diogelu data yn Neddf Diogelu Data 1998. At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998, Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r Rheolwr Data ar gyfer y gwasanaeth hwn. Cedwir data yn unol â Pholisi Gofal Cymdeithasol Cymru ar Gadw a Dileu Data a Pholisi Cadw Rheoleiddio’r Gweithlu.

Hysbysu am newidiadau

Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i delerau ac amodau GCCarlein yn cael ei gyhoeddi ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ymwadiad

Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir, nid yw’n gyngor cyfreithiol nac yn gyngor proffesiynol arall.

Felly, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwadu pob atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth ar y cyfryw wybodaeth neu ddeunyddiau gan unrhyw ymwelydd â’r Wefan. Ni ellir dal Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dudalennau y cyfeirir atynt trwy ddolen allanol.

Cwcis

Pan fyddwch yn defnyddio’r Wefan hon, gallai Gofal Cymdeithasol Cymru ddefnyddio cwcis i gasglu a storio’ch gwybodaeth. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon i weithredu a gwella’r Wefan, ei wasanaeth a’i adnoddau.

Gall trydydd partïon ddefnyddio cwcis ar y Wefan hefyd. Cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth, gan gynnwys rhestr o’r cwcis sy’n cael eu defnyddio a gwybodaeth am sut i’w rheoli a’u dileu.

Trwy ddefnyddio’r Wefan, rydych chi’n cytuno i’ch gwybodaeth gael ei chasglu a’i storio yn unol â’r Telerau hyn a thelerau ein Polisi Preifatrwydd.

Fodd bynnag, mae arnom angen eich cydsyniad i ddefnyddio cwcis. Trwy gyrchu GCCarlein, rydych yn cydsynio y gallwn ddefnyddio’r cwcis isod.

Categori 1 – Cwcis cwbl angenrheidiol.

Categori 2 – Cwcis perfformiad

Categori 3 – Cwcis swyddogaethol


Cwci Categori 1

Mae’r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn eich galluogi chi i symud o gwmpas y wefan a defnyddio’i nodweddion, fel cyrchu ardaloedd diogel o’r wefan.

Heb y cwcis hyn, ni ellir darparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt, fel basgedi siopa neu e-filio.

Cwci Categori 2

Mae’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, er enghraifft pa dudalennau mae ymwelwyr yn mynd iddynt amlaf a ph’un a ydynt yn cael negeseuon gwallau gan dudalennau gwe. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy’n datgelu pwy yw ymwelydd.

Mae’r holl wybodaeth sy’n cael ei chasglu gan y cwcis hyn yn cael ei chydgrynhoi ac, felly, mae’n anhysbys. Fe’i defnyddir i wella’r ffordd y mae gwefan yn gweithio yn unig.

Cwci Categori 3

Mae’r cwcis hyn yn caniatáu i’r wefan gofio’r dewisiadau rydych chi’n eu gwneud (fel eich enw defnyddiwr, iaith neu eich rhanbarth) ac maent yn cynnig nodweddion estynedig, mwy personol. Er enghraifft, mae’n bosibl y gall gwefan roi adroddiadau am y tywydd neu newyddion am draffig yn lleol trwy gadw manylion am eich rhanbarth presennol mewn cwci. Hefyd, gall y cwcis hyn cael eu defnyddio i gofio newidiadau a wnaethoch i faint testun, ffontiau a rhannau eraill o dudalennau gwe y gallwch chi eu haddasu. Hefyd, mae’n bosibl y gallant gael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw, fel gwylio fideo neu roi sylwadau ar flog.

Eiddo deallusol

Diogelir y Wefan, gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) testun, cynnwys, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, ffotograffau, darluniau, gwaith celf, enwau, logos, nodau masnach, a deunyddiau eraill ("Gwybodaeth") gan hawlfraint, cronfeydd ddata, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae’r Wybodaeth yn cwmpasu cynnwys sy’n eiddo i ni ac a reolir ganddo, a chynnwys sy’n eiddo i unrhyw drydydd parti ac a reolir ganddynt ac sydd wedi’i drwyddedu gennym.

Mae’r holl enwau, lluniau a logos sy’n gysylltiedig â ni yn farciau perchnogol i Gofal Cymdeithasol Cymru. Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu logos unrhyw drydydd parti a gyrchir trwy’r Wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw gan y perchennog hawlfraint perthnasol.

Dylai ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio’n logo gael eu cyfeirio at y tîm Cyfathrebu trwy’r manylion cyswllt isod. Rydych yn cytuno i hysbysu ni yn ysgrifenedig yn brydlon os ydych yn ymwybodol o unrhyw achosion o fynediad heb awdurdod i’r Wefan neu ddefnydd ohoni gan unrhyw barti, neu o unrhyw honiad bod y Wefan neu unrhyw ddefnydd o’r Wybodaeth yn ymyrryd â hawlfraint, nodau masnach neu hawliau dan gontract, statudol neu gyfraith gyffredin unrhyw barti.

Hysbysiad hawlfraint

Hawlfraint Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r wybodaeth a welir ar y Wefan hon, oni nodir yn wahanol. Rydych yn cytuno i gydymffurfio â phob rhybudd neu gyfyngiad hawlfraint ychwanegol sydd wedi’u cynnwys yn y Wefan. Gallwch chi ailddefnyddio’r wybodaeth sydd ar y wefan hon am ddim mewn unrhyw fformat. Mae ailddefnyddio’n cynnwys copïo, dosbarthu copïau i’r cyhoedd, cyhoeddi, darlledu a chyfieithu i ieithoedd eraill. Mae hefyd yn cynnwys gwaith ymchwil ac astudio anfasnachol. Rhaid ailddefnyddio’n unol â’r amodau canlynol. Rhaid i chi:

  • gydnabod y ffynhonnell a’n hawlfraint pan fyddwch chi’n darparu’r wybodaeth i eraill
  • cadw pob rhybudd hawlfraint wedi’i lawrlwytho neu’i argraffu a pharhau’n rhwym i delerau geiriau a rhybuddion o’r fath
  • peidio â gwerthu neu gynnig gwerthu unrhyw Wybodaeth
  • ailgynhyrchu’r wybodaeth yn gywir
  • peidio â defnyddio’r wybodaeth mewn ffordd gamarweiniol
  • peidio â defnyddio’r wybodaeth yn bennaf at ddibenion hysbysebu neu hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth penodol.

Nid yw’r caniatâd i lawrlwytho ac ailgynhyrchu cynnwys yn berthnasol i unrhyw ddeunydd ar y wefan lle mae’r hawlfraint yn eiddo i drydydd parti. Rhaid cael caniatâd deiliaid yr hawlfraint dan sylw cyn ailgynhyrchu deunydd o’r fath.

Gellir gweld mwy o ganllawiau ar ailddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus ar Hafan Swyddogol Deddfwriaeth y DU: www.legislation.gov.uk/

Nodwch os gwelwch yn dda nad oes tâl am ailddefnyddio’r Wybodaeth hon, cyn belled â’i bod yn cael ei hailddefnyddio’n unol â’r amodau uchod. Pe byddid yn mynd yn groes i un o’r amodau a nodwyd uchod wrth ailddefnyddio’r Wybodaeth hon, dylid gwneud cais ysgrifenedig am ganiatâd i’w hailddefnyddio. Byddwn yn ystyried y cais yn ofalus. Cyfeiriwch geisiadau ysgrifenedig at y Rheolwr Cyfathrebu (cyfeiriad isod).

Os hoffech chi wneud cwyn am achos o ailddefnyddio gwybodaeth oddi ar ein Gwefan, dilynwch drefn gwyno’r ar canmoliaeth, pryderon a chwyno.

Hyperddolennu


Nid oes angen i chi ofyn am ein caniatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau sy’n cael eu gweletya ar ein safle. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi roi dolen uniongyrchol i’r Wybodaeth ar ein safle. Ond, nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho mewn fframiau ar eich safle. Dylai ein tudalennau gwe lwytho i mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr. Os hoffai perchnogion pyrth gynnwys ein tudalennau gwe o fewn safleoedd porth cysylltwch â ni

Defnyddio

Gellir cyrchu’r Wefan dros dro yn unig ac rydych yn cydnabod nad ydych yn cael unrhyw hawliau na thrwyddedau yn y Wefan na thrwy ei gyrchu a/neu’r wybodaeth heblaw am yr hawl gyfyngedig i ddefnyddio’r Wefan yn unol â’r Telerau hyn.

Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r Wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n tresmasu ar hawliau unrhyw drydydd parti, nac yn cyfyngu ar allu unrhyw drydydd parti i ddefnyddio a mwynhau’r Wefan hon, na’i rwystro rhag gwneud hynny. Bydd amod neu waharddiad o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad anghyfreithlon, neu ymddygiad a allai aflonyddu ar rywun, neu achosi gofid neu anhwylustod iddo, trosglwyddo cynnwys aflan neu sarhaus neu darfu ar y llif sgwrsio arferol sydd ar y Wefan hon.

Gwaherddir trosglwyddo unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, difenwol, aflan, sarhaus neu dramgwyddus trwy’r Wefan hon.

Ni chaniateir camddefnyddio’r Wefan hon trwy gyflwyno, yn fwriadol, firysau, ceffylau Caerdroea, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol i’r dechnoleg. Ni chaniateir ceisio cael mynediad heb awdurdod i’r Wefan neu’r gweinydd y caiff ei storio arno ac ni chaniateir ymosod ar ein gwefan trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig.

Cyfyngiad rhwymedigaeth

Rydych chi’n cydnabod eich bod yn defnyddio’r Wefan, gan gynnwys y Wybodaeth, ar eich menter eich hun. Os nad ydych chi’n fodlon â’r Wefan, y Telerau neu unrhyw ran o’r Wybodaeth, yr unig ateb yw peidio â defnyddio’r Wefan mwyach. Ar wahân i achosion o dwyll ac anafiadau personol neu farwolaeth sy’n cael eu hachosi gan ein esgeulustod, ni fyddwn yn atebol i chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw niwed uniongyrchol, arbennig, anuniongyrchol, ôl-ddilynol neu gysylltiedig (gan gynnwys colli elw), neu unrhyw niwed arall o unrhyw fath, p’un a yw’n seiliedig ar gontract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, hyd yn oed os rydym wedi cael ei rybuddio y gallai hyn ddigwydd.

Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am fethu â chydymffurfio â’r Telerau hyn lle daw’r methiannau yn sgil amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

Diogelu rhag firysau

Rydym yn gwneud ein gorau i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu. Peth doeth bob amser fyddai rhedeg rhaglen gwrthfirysau ar unrhyw ddeunydd a lwythwyd i lawr o’r Rhyngrwyd. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol, neu unrhyw achos o darfu arnynt, yn sgil defnyddio deunydd neu lawrlwytho neu ddefnyddio unrhyw ddeunydd a ddaw o’r Wefan.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig a ddaw yn sgil eich defnydd o’r Wefan ac nid yw’n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol, neu achos o darfu arnynt, a allai ddigwydd yn sgil eich defnydd o’r Wefan.

Terfynu

Os byddwch chi’n torri unrhyw un o’r Telerau hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’r wefan yn cael ei therfynu’n awtomatig.

Newidiadau i'r wefan

Gallai’r Wefan gynnwys hen ddeunydd ar unrhyw adeg. Rydych chi’n derbyn bod gennym yr hawl i newid cynnwys neu fanylebau technegol unrhyw agwedd ar y Wefan ar unrhyw adeg yn ôl ei ddisgresiwn, er nad oes ganddo ddyletswydd i wneud hynny. Rydych chi hefyd yn derbyn y gallai newidiadau o’r fath olygu na fyddwch chi’n gallu cyrchu’r Wefan.

Ildio hawl

Ni fydd y ffaith ein bod yn hepgor toriad unrhyw ddyletswydd sy’n deillio o’r Telerau hyn yn golygu bod unrhyw doriad arall yn cael ei hepgor, ac ni fydd y ffaith ein bod yn methu â gweithredu unrhyw gamau adfer, neu ond yn cymryd rhai camau adfer, yn golygu ei fod yn ildio unrhyw hawl ar ôl hynny i weithredu’r camau neu i gymryd unrhyw gamau adfer eraill.

Cyffredinol

Ni fydd gan unigolyn nad yw’n barti yn y Telerau hyn unrhyw hawl o dan Ddeddf Contract (Hawliau Trydydd Parti) 1999 i orfodi unrhyw un o’r Telerau hyn.

Os canfyddir bod unrhyw ran o’r Telerau hyn yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n amhosibl ei gorfodi am ba bynnag reswm, bydd y rhan annilys, anghyfreithlon neu amhosib ei gorfodi’n cael ei dileu a bydd y Telerau sydd ar ôl yn parhau i fod mewn grym yn llawn.

Polisi Preifatrwydd

Mae ein Polisi Preifatrwydd yn berthnasol i’ch defnydd chi o’r Wefan ac yn cynnwys gwybodaeth bwysig, gan gynnwys sut rydym yn defnyddio a diogelu’r wybodaeth a gesglir gennym. Gweler gwe-dudalen ein Polisi preifatrwydd a cwcis.

Hysbysiad Cyfreithiol

Llywodraethir a dehonglir y Telerau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr (fel y cânt eu rhoi ar waith yng Nghymru). Bydd unrhyw ddadl o ran y Telerau hyn yn cael ei ddatrys o dan awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi gwestiwn am y Telerau hyn neu am y wefan, cysylltwch a ni gan ddefnyddio'r gwybodaeth odan

E-bost:  gccarlein@gofalcymdeithasol.cymru

Llythyr:

Gofal Cymdeithasol Cymru
South Gate House
Wood Street
Cardiff
CF10 1EW