Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae’n gweithio tuag at sicrhau bod gan bawb fynediad at ein holl gynhyrchion a gwasanaethau. A wnewch chi ein helpu ni i fonitro effeithiolrwydd ein gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy ateb y cwestiynau monitro.

 

  • Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i sicrhau bod yr ymgeiswyr a’r unigolion cofrestredig yn cael eu trin yn deg a chyfiawn.
  • Ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth i’n helpu ni i benderfynu a ydych yn addas i weithio mewn gofal cymdeithasol.
  • Nid oes rhaid i chi nodi’r wybodaeth hon i ymgeisio i gofrestru.