Sut ydw i'n gwybod pa gymhwyster sydd ei angen arnaf?
Os ydych yn ansicr ynglŷn â'ch cymhwyster neu os nad ydych yn credu eich bod yn bodloni'r gofynion i allu gwneud cais i gofrestru, gallwch wirio'ch math o gymhwyster a chael gwybod mwy am yr hyn y dylech ei wneud nesaf, drwy fynd i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'n bwysig eich bod yn gwybod pa fath o gymhwyster yr ydych yn cofrestru gyda gan fyddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth hon gyda thystiolaeth fel rhan o'ch cais. Os yw’n addas a nad oes gennych gymhwyster eto, gallwch wneud cais i gofrestru drwy ddefnyddio’r llwybr Asesiad Cyflogwr, lle mae’ch cyflogwr yn cadarnhau eich dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd.
Mae gennyf y cymhwyster sut ydw i'n ychwanegu hyn at fy nghais?
I ddweud wrthym am eich cymhwyster bydd angen i chi ddewis:'Mae gennyf y cymhwyster(au) gofynnol i wneud cais i gofrestru' yn adran gymwysterau eich ffurflen gais.
Pan fyddwch yn dewis yr opsiwn hwn, gofynnir i chi ychwanegu eich cymhwyster yn y grid trwy ddewis yr arwydd plws.
Dewiswch y blwch o'r enw ychwanegu cymhwyster, bydd hyn yn agor sgrin i chi ychwanegu'r manylion sydd eu hangen arnom, os ydych yn ansicr o unrhyw un o'r cwestiynau, gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ar eich tystysgrif cymhwyster fel arfer. Rhaid i chi lenwi pob blwch ar y sgrin hon cyn dewis cadw a chau.
Pan fyddwch yn dewis cadw a chau dylai'r blwch gau a fydd y wybodaeth i'w weld ar sgrin gymwysterau eich cais.
Os ydych wedi gwneud gwall, gallwch ddefnyddio'r saeth yn y grid i newid neu ddileu'r cofnod a ychwanegwyd gennych.
Os oes gennych fwy nag un cymhwyster i ddweud wrthym amdano, gallwch ychwanegu at y grid eto gan ddefnyddio'r botwm ychwanegu cymhwyster.
Unwaith y byddwch wedi ychwanegu'r holl gymwysterau rydych am ddweud wrthym, dewiswch arbed a nesaf a dylai eich cais symud i ran nesaf y ffurflen. Dylai tic ymddangos wrth ymyl y geiriau cymhwyster yn y rhestr adrannau ar ochr chwith eich sgrin, i roi gwybod i chi eich bod wedi cwblhau'r adran. Os nad oes tic neu os oes gennych driongl gyda !, efallai eich bod wedi methu rhywbeth ar y dudalen honno a bydd angen i chi edrych arno eto cyn y gallwch gyflwyno'ch cais.
Ni oes gen i gymhwyster eto ac rwyf am gofrestru gan ddefnyddio asesiad cyflogwr, sut ydw i'n ychwanegu hyn at fy nghais?
I ddweud wrthym yr hoffech i’ch cyflogwr ddarparu asesiad o’ch dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd allweddol, dewiswch: 'Byddaf yn defnyddio’r llwybr Asesiad Cyflogwr i gofrestru' yn adran gymwysterau eich ffurflen gais.
Pan fyddwch yn dewis yr opsiwn hwn, byddwch yn gweld yr opsiynau'n newid ar y sgrin. Fe fydd botwm gydag arwydd phlws o'r enw ychwanegu asesydd cyflogwr.
Dewisiwch y botwm hwn i roi manylion eich rheolwr i ni gysylltu â nhw. Bydd blwch yn agor sy'n gofyn enw eich sefydliad ac yn rhoi rhestr i chi i ddewis y rheolwr priodol o'ch sefydliad. Os nad oes un o'r rheolwyr ar y rhestr hon yn briodol, mae opsiwn o'r enw 'nid yw fy rheolwr cofrestredig ar y rhestr'. Bydd dewis hwn yn agor ffurflen lle gallwch deipio gwybodaeth eich rheolwyr.
Pan fyddwch yn dewis cadw a chau dylai'r blwch gau a dylech weld bod y wybodaeth a roddwyd i mewn wedi'i hychwanegu at sgrin gymwysterau eich cais.
Os ydych wedi gwneud gwall, gallwch ddefnyddio'r saeth yn y grid i newid neu ddileu'r cofnod a ychwanegwyd gennych.
Unwaith y byddwch wedi ychwanegu'r holl wybodaeth rydych am ddweud wrthym,dewiswch arbed a nesaf a dylai eich cais symud i ran nesaf y ffurflen. Dylai tic ymddangos wrth ymyl y geiriau cymhwyster yn y rhestr adrannau ar ochr chwith eich sgrin, i roi gwybod i chi eich bod wedi cwblhau'r adran. Os nad oes tic neu os oes gennych driongl gyda !, efallai eich bod wedi methu rhywbeth ar y dudalen honno a bydd angen i chi edrych arno eto cyn y gallwch gyflwyno'ch cais.