Beth mae gwirio yn ei olygu?

Mae gwirio yn golygu edrych ar y ddogfen wreiddiol, gwneud llungopi ohoni a’i llofnodi a’i dyddio i gadarnhau ei bod yn gopi cywir o’r ddogfen wreiddiol.

Pwy sydd angen cael ei wirio?

Mae'n rhaid i bawb cyflwyno dogfennau wiriedig ar wahan i fyfyrwyr a phobl sydd eisoes wedi cael eu cofrestru gyda ni.

Pwy sy’n gallu bod yn wiriwr?

Gall eich gwiriwr fod yn llofnodwr cymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae llofnodwyr cymeradwy yn bobl a enwebwyd gan gyflogwyr a phrifysgolion i weithio ochr yn ochr â ni a chefnogi’r broses gofrestru. Gellir gweld rhestr o lofnodwyr ar gyfer eich gweithle neu le astudio yn eich cyfrif GCCarlein pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen gais neu’ch ffurflen adnewyddu. Os nad yw eich gwiriwr yn llofnodwr, bydd angen i’ch ardystiwr gadarnhau ei fod/bod yn unigolyn addas i gadarnhau pwy ydych chi.

neu

Os nad ydych yn cael eich cyflogi ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, gall unigolyn proffesiynol sydd wedi eich adnabod ers o leiaf flwyddyn, nad yw’n perthyn i chi ac nad yw mewn perthynas bersonol â chi, fod yn wiriwr i chi. Er enghraifft, gweithiwr proffesiynol cofrestredig, fel ynad, eich meddyg neu brifathro. Gall gweithiwr cymdeithasol cofrestredig wirio’ch dogfennau os yw’r unigolyn hwn wedi’i gymeradwyo gan y sawl sy’n ardystio’ch cais neu’ch adnewyddiad. Os ydych yn hunangyflogedig, ni ddylai’r gwiriwr fod yn gweithio i’r un sefydliad oni bai ei fod/bod mewn rôl uwch na chi, fel yr ymgeisydd.

Gwelwch ein Canllaw Gwirio a Chymeradwyo am ragor o wybodaeth.