Y 'Datganiad Personol' 

Y dudalen datganiad personol yw lle rydych yn darllen ac yn cadarnhau eich bod yn cytuno i gadw at ein gofynion cofrestru. Mae'n bwysig eich bod yn darllen y rhain yn ofalus ac yn deall yr hyn yr ydych yn cytuno iddo.

Gofynnir i chi hefyd os ydych yn gweithio ar hyn o bryd mewn rôl arall lle mae angen i chi cofrestru, mae hyn er mwyn i ni wybod a oes angen ail gofrestriad arnoch a gallwn eich cefnogi gyda'r broses.

Nad oes gen i fotwm cyflwyno, beth ydw i'n ei wneud? 

Os gwelwch driongl coch gyda nod ebychiad ar ben y dudalen neu ar unrhyw un o'r opsiynau ar y ddewislen ochr, mae'n golygu nad ydych wedi cwblhau rhan o'ch cais yn llawn, ac nid yw'n barod i'w chyflwyno, gan fod rhywfaint o'r wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych yn dal ar goll.

Bydd clicio ar unrhyw adrannau anghyflawn yn y ddewislen ochr yn mynd â chi i'r rhan honno o'r ffurflen i chi ei llenwi. Unwaith y bydd adran ar eich cais wedi'i chwblhau, byddwch yn gweld tic coch wrth ei ymyl yn y ddewislen ochr. Pan fydd pob adran wedi'i chwblhau bydd gennych yr opsiwn i gyflwyno'ch cais.

Ni fydd ceisiadau sydd heb eu cyflwyno yn cael eu hanfon atom sy'n golygu na ellir eich cofrestru.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gyflwyno 

Ni all ein tîm brosesu cais a gyflwynwyd nes bod eich taliad wedi'i wneud a bod unrhyw gymeradwyaeth gan eich cyflogwr wedi'i chwblhau. Unwaith y bydd gennym ffurflen gais cyflawn gan gynnwys cymeradwyaeth a thaliad bydd un o'n tîm cofrestru yn adolygu eich cais a gwneir penderfyniad ynghylch eich addasrwydd i ymuno â'r Gofrestr.

Nid yw cyflwyno eich cais yn golygu eich bod wedi cofrestru. Ni fyddwch wedi cofrestru nes ein bod wedi anfon e-bost atoch i gadarnhau bod eich cofrestriad wedi'i ganiatau a bod eich enw'n ymddangos ar y Gofrestr.

Gwiriwch eich negeseuon e-bost am negeseuon gennym gan mai dyma sut y byddwn yn cysylltu â chi am unrhyw wybodaeth sydd ar goll bod ei hangen arnom pan fyddwn yn gwirio eich cais ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich cais.