Gwneud cais i gofrestru

Fel rhan o’ch cais i gofrestru gofynnir i chi darparu eich manylion cyflogaeth cyfredol, bydd angen i chi roi manylion eich swydd i ni gan gynnwys pryd dechreuoch chi a phwy rydych chi'n gweithio gyda.

Os oes angen i chi newid y wybodaeth rydych chi wedi'i hychwanegu cyn i chi gyflwyno'ch cais, gallwch ddewis y saeth fach ar ddiwedd y cofnod i’w ddiweddaru a dewis y newid yr hoffech o'r ddewislen.

Adnewyddu cofrestriad

Fel rhan o’ch cais adnewyddu, gofynnir i chi cadarnhau eich manylion cyflogaeth bresennol. Cewch gyfle i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen.

Diweddaru eich manylion cyflogaeth

Gallwch newid eich manylion cyflogaeth drwy ddewis ‘Fy Nghofrestriad’ ar y ddewislen ac yna ‘Fy Nghyflogaeth’. Mae hyn yn agor eich cofnod cyflogaeth, gallwch newid y wybodaeth sydd gennym drwy glicio ar y cofnodion yn y grid a dewis ‘Newid cyflogaeth.'

 

Os ydych ar fin adael neu wedi gadael un o’r swyddi a restrir yn eich grid cyflogaeth, dewiswch ‘newid’ ac ychwanegwch y dyddiad y daeth y gyflogaeth i ben a hefyd  y math o newid o'r ddewislen a ddarparwyd.

Cofiwch ychwanegu cofnod cyflogaeth newydd drwy glicio ar ‘Ychwanegu Manylion Cyflogaeth Newydd ’ a  chwblhau’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Wrth wneud cais i gofrestru neu i adnewyddu, os oes gennych swydd newydd ond heb ei ddechrau eto, gallwch ychwanegu hwn fel eich swydd bresennol gan roi eich dyddiad dechrau yn y dyfodol. Os yw'r swydd yn ansicr, byddai'n well gwneud cais gan ddefnyddio'ch sefyllfa cyflogaeth bresennol a diweddaru eich manylion unwaith yr ydych yn dechrau eich swydd newydd.

Os ydych angen mwy o gyngor arnoch  ynglŷn â’r uchod, cysylltwch â ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru