Cymorth: Telerau ac Amodau
Gwneud cais i Gofrestru
I wirio bod gennych y cymhwyster gofynnol ar gyfer y math o rôl yr ydych am wneud cais amdano, gweler y dudalen gymwysterau ar ein gwefan.
Gellir arbed a chwblhau ceisiadau a wneir ar y safle hwn fesul cam.
Ni fydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno i Gofal Cymdeithasol Cymry tan
-
mae'r cais wedi'i gwblhau'n llwyr
-
mae’r taliad yn cael ei wneud
-
a eich bod wedi glicio 'cyflwyno'.
Rhaid i bawb sy'n gwneud cais i gofrestru cytuno i ddilyn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Mae'r wefan hon ar gael ar ffôn clyfar, cyfrifiadur neu dabled. Ceir rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn ein datganiad hygyrchedd.
Mae gwybodaeth am sut rydym yn rheoli eich data i'w gweld yn ein hysbysiad preifatrwydd
Gwrthod cofrestriad
Gallwn wrthod cofrestru a gallwn osod sancsiynau megis:
-
cyfyngiadau ar weithio
-
gofynion hyfforddi
-
profiad gwaith.
Rydym yn ymchwilio os oes tystiolaeth sy'n cwestiynu addasrwydd rhywun i weithio ym maes gofal cymdeithasol.
Ceir rhagor o wybodaeth am gofrestru gyda ni gan gynnwys gwybodaeth am ffioedd a pham mae angen i bobl gofrestru ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.