Ni fydd unrhyw ddatganiad a wnewch yn ymwneud â'ch iechyd yn weladwy i'ch cymeradwywr trwy SCWonline.

Efallai y bydd angen i ni ofyn am adroddiad iechyd amdanoch chi gan eich meddyg teulu neu unrhyw ymarferydd iechyd arall sy'n gwybod yn broffesiynol am eich cyflwr iechyd. Nid oes rhaid ichi roi eich caniatâd ond hebddo ni fyddwn yn gallu cael adroddiad. Os bydd angen arnom unrhyw wybodaeth bellach, byddwn yn cysylltu â chi.