Croeso i GCCarlein
Noder os gwelwch yn dda: rydym yn profi rhai problemau technegol gyda'r wefan ond yn gweithio gyda'n cyflenwr i ddatrys y rhain cyn gynted â phosibl. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
GCCarlein yw lle gallwch wneud cais i gofrestru a rheoli eich cofrestriadau gan ddefnyddio ffôn, cyfrifiadur personol neu lechen. Mae cyflogwyr, sy'n hysbys i ni fel llofnodwyr, hefyd yn defnyddio'r wefan.
Wrth ddefnyddio GCCarlein, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o Google Chrome neu borwr cyfoes arall h.y. Microsoft Edge. I gael mwy o wybodaeth am y pwnc hwn ewch i'r dudalen gymorth.
Ar ôl i chi gyflwyno cais i gofrestru neu adnewyddu eich cofrestriad, os oes unrhyw wybodaeth ar goll, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost. Gwiriwch eich e-byst yn rheolaidd, gan gynnwys eich ffolderau Junc / Sbam.
I gael cefnogaeth wrth ddefnyddio'r wefan neu os oes gennych gwestiynau ynglŷn â'r broses gofrestru, ewch i'n gwefan neu e-bostiwch ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru gyda'ch cwestiwn.
Os oes angen i chi gwblhau'r Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd
cyn gwneud cais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol, ewch i https://www.fframwaithsefydlu.cymru
Angen gwybod….
Coronafirws a'n gwaith: ein nod yw darparu gwasanaeth fel yr arfer ble’n bosib, ond bydd cyflymder ein hymateb yn lleihau wrth i ni symud i’n ffordd newydd o weithio. Bydd GCCarlein yn dal i fod ar gael yn ystod yr amser hwn.
Mae atebion i gwestiynau a allai fod gennych ynglŷn â sut yr ydym yn gweithio yn ystod yr achosion o coronafirws a sut y gallai hyn effeithio arnoch yn cael eu postio ar ein prif wefan: Coronafeirws a sut y gallai yn effeithio arnoch chi.
Byddwn ni’n adolygu a diweddaru ein gwasanaethau pan fydd cyhoeddiadau newydd gan Lywodraethau Cymru a’r DU i sicrhau ein bod ni’n ymateb yn y ffordd orau i’r sefyllfa yma sy’n newid mor gyflym. Gweler ein tudalen newyddion am ddiweddariadau.