Sut i chwilio'r Gofrestr

Os na nad ydych yn siŵr sut i chwilio'n iwan neu na chawsoch chi'r canlyniadau roeddech chi'n eu disgwyl, gallai'r wybodaeth ganlynol eich helpu chi:

  • chwiliwch gan ddefnyddio enw cyntaf, cyfenw, y sir lle mae’r unigolyn wedi’i chyflogi neu, os ydych chi’n ei wybod, rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru. Dylai’r rhif edrych fel hyn: W/1234567

  • nid oes rhaid i chi roi gwybodaeth ym mhob adran i chwilio

  • mae unigolion wedi’u cofrestru yn ôl yr enw a ddefnyddiant yn y gwaith. Er enghraifft, os yw rhywun o’r enw Angela yn cael ei galw’n ‘Angie’ fel arfer, rhowch gynnig ar ddefnyddio’r ddau enw i chwilio am yr unigolyn

  • wrth chwilio am enw cyntaf neu ail enw unigolyn yn y blwch chwilio, peidiwch ag ychwanegu bwlch ar ôl yr enw

  • gallai chwiliad ddangos mwy nag un canlyniad, er enghraifft bydd chwilio am ‘Robert’ yn dangos ‘Robert’, ‘Roberts’ a ‘Robertson’, gan fod yr holl enwau hyn yn cynnwys y gair ‘Robert’.

Os byddwch chi’n chwilio am rywun ac nid yw’n ymddangos ar y Gofrestr, gallai hynny olygu nad yw wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.  Dylech wirio rhestr enwau’r unigolion sydd wedi’u tynnu oddi ar y Gofrestr.

Os bydd enw unigolyn yn ymddangos ar y Gofrestr, ond mae’r Gofrestr yn dweud bod yr unigolyn wedi’i atal, mae hynny’n golygu nad oes hawl gan yr unigolyn i weithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd y Gofrestr yn dangos y cyfnod atal.

Os bydd enw unigolyn yn ymddangos yn rhestr enwau’r unigolion sydd wedi’u tynnu oddi ar y Gofrestr, mae hyn yn golygu iddynt gael eu tynnu o’r Gofrestr o ganlyniad i bryderon am eu haddasrwydd i ymarfer ac ni allant barhau i weithio yn eu rôl gofrestredig.

Rhestr y bobl sydd wedi’u tynnu oddi ar y Gofrestr

Mae enwau’r bobl sy’n ymddangos yn y rhestr hon wedi’u tynnu o’r Gofrestr trwy orchymyn dileu neu ddileu trwy gytundeb gan Banel Addasrwydd i Ymarfer. Mae hyn yn golygu nad all y bobl ar y rhestr hon weithio mewn rôl gofrestredig yng Nghymru oherwydd bod amhariad ar eu haddasrwydd i ymarfer.

Gorchymyn dileu - mae’r gorchymyn hwn yn golygu bod Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi penderfynu tynnu enw unigolyn o’r Gofrestr. Mae’r rhesymau dros ddileu i’w gweld trwy glicio ar y ddolen yng ngwybodaeth yr unigolyn, a fydd yn mynd â chi i’r dudalen gwrandawiadau ar y wefan.

Dileu trwy gytundeb (DTG) - mae hyn yn golygu bod enw’r unigolyn cofrestredig wedi’i dynnu o’r Gofrestr ar ôl i’r unigolyn dderbyn bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer ac mae Panel Addasrwydd i Ymarfer yn cytuno i’w ddileu.  Mae’r rhesymau dros ddileu i’w gweld trwy glicio ar y ddolen yng ngwybodaeth yr unigolyn, a fydd yn mynd â chi i’r dudalen gwrandawiadau ar y wefan.

  • Mae DTG yn berthnasol mewn achosion lle mae ein swyddogion addasrwydd i ymarfer yn ystyried cyfeirio achos at banel addasrwydd i ymarfer neu eisoes wedi gwneud hyn oherwydd pryderon am ymarfer gweithiwr cofrestredig. 
  • Pan fydd rhywun sydd wedi'i gyfeirio atom yn gofyn am DTG, mae ein tîm addasrwydd i ymarfer yn ystyried a oes tebygolrwydd realistig o ganfod amhariad yn eu herbyn ac, os felly, a yw er budd y cyhoedd i fwrw ymlaen i wrandawiad. 
  • Os yw'r tîm addasrwydd i ymarfer yn dod i'r casgliad nad oes tebygolrwydd realistig o ganfod amhariad yn erbyn unigolyn, a bod yr achos yn addas ar gyfer DTG, bydd enw'r gweithiwr yn cael ei dynnu o'n Cofrestr heb fod angen gwrandawiad panel. 
  • Os ydyn ni’n dod i'r casgliad bod tebygolrwydd realistig o ddod o hyd i amhariad, ond nad oes angen gwrandawiad o'r honiadau yn erbyn y person er budd y cyhoedd, efallai y byddwn ni’n dal i ganiatáu DTG. Fodd bynnag, byddwn ni ond yn gwneud hyn os yw'r person yn cytuno i 'ddatganiad o’r ffeithiau y cytunwyd arnynt' mewn perthynas â'r honiadau yn eu herbyn. Yn y math hwn o achos, mae'n ofynnol i ni gyhoeddi'r penderfyniadau hyn a'r datganiad o ffeithiau y cytunwyd arnynt. Byddwn ni’n ystyried y wybodaeth hyn os yw'r unigolyn yn gwneud cais i ddod yn ôl i'n cofrestr. Gellir dod o hyd i'r achosion hyn yn ein rhestr DTG. 


Os ydych chi’n amau bod rhywun yn gweithio mewn rôl lle mae cofrestru ar gyfer y rôl honno yn ofynnol ond nid yw’n ymddangos bod enw’r unigolyn ar y wefan, neu os oes gennych unrhyw ymholiad arall, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Gwelir rhestr ar ein gwefan o'r rolau lle mae cofrestru yn ofynnol