Gallwch chi chwilio'r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol yng Nghymru gan ddefnyddio un neu fwy o'r meysydd isod.  Os ydych chi’n chwilio am unigolyn, efallai y bydd angen i chi wirio'r tri tabl. 

Tabl 1 - Gweithwyr cofrestredig 
Mae'r tabl cyntaf isod yn dangos gweithwyr cofrestredig. Cliciwch ar y rhif cofrestru i gael gwybod mwy am gymwysterau’r gweithiwr.  Bydd hyn hefyd yn dangos os yw gweithiwr: 

  • wedi cael ei atal o'r Gofrestr drwy orchymyn dros dro a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer 
  • wedi cael canlyniad heblaw gorchymyn dileu drwy banel addasrwydd i ymarfer 
  • â gwarediad swyddog addasrwydd i ymarfer ar ei cofrestriad. Bydd hyn naill ai'n ymgymeriad swyddog neu’n rybudd swyddog. 

Tabl 2 - Wedi’i dynnu yn dilyn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer 
Bydd unrhywun sy'n cael ei dynnu o'r Gofrestr mewn gwrandawiad panel ar gyfer materion addasrwydd i ymarfer yn cael eu dangos ar yr ail dabl isod. 

Tabl 3 - Dileu trwy gytundeb 
Weithiau, mae gweithwyr cofrestredig sy'n cael eu cyfeirio atom yn dilyn pryderon am eu haddasrwydd i ymarfer yn gofyn i gael tynnu eu henwau oddi ar ein Cofrestr o dan yr hyn a elwir yn Dileu trwy gytundeb (DTG)

Gwiriwch ein tudalen Gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer i gael manylion gwrandawiadau cyfredol a rhai sydd i ddod a phenderfyniadau sydd i'w disgwyl. Mae hi'n bosib na fyddwn wedi ychwanegu'r wybodaeth hon at ein Cofrestr eto a gall fod yn berthnasol i'ch chwiliad am wybodaeth am addasrwydd person cofrestredig i ymarfer. Gweler: Gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer

Mae ein tudalennau cymorth yn cynnig mwy o fanylion am sut i chwilio’r Gofrestr. Gweler: Cymorth



Unigolion Cofrestredig

Unigolion sydd wedi eu tynnu oddi wrth y Gofrestr

Unigolion sydd wedi eu tynnu oddi trwy gytundeb wrth y Gofrestr