Beth yw GCCarlein

GCCarlein yw lle gallwch wneud cais i gofrestru a rheoli eich cofrestriadau gan ddefnyddio ffôn, cyfrifiadur personol neu lechen. Mae cyflogwyr, sy'n hysbys i ni fel llofnodwyr, hefyd yn defnyddio'r wefan.

Ar ôl i chi gyflwyno cais i gofrestru neu adnewyddu eich cofrestriad, os oes unrhyw wybodaeth ar goll, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost. Gwiriwch eich e-byst yn rheolaidd, gan gynnwys eich ffolderau Jync / Sbam.

Angen help?

I gael cefnogaeth wrth ddefnyddio'r wefan neu os oes gennych gwestiynau ynglŷn â'r broses gofrestru, ewch i'n gwefan neu e-bostiwch ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru gyda'ch cwestiwn.